slideshow-1

Hanes William Mathias

William MathiasGanwyd y cyfansoddwr William Mathias yn Hendy-gwyn ar Dâf, Sir Gaerfyrddin, yn 1934. Roedd yn gerddor galluog yn ifanc iawn – dechreuodd ganu’r piano yn 3 oed, ac roedd yn cyfansoddi yn 5 oed. Astudiodd gerddoriaeth yn y brifysgol yn Aberystwyth, ac enillodd ysgoloriaeth agored i astudio cyfansoddi yn yr Academi Frenhinol Cerddoriaeth, Llundain.

Mae’n cael ei adnabod fel un o gerddorion gorau ei genhedlaeth, a daeth yn un o'r cyfansoddwyr Cymreig cyntaf i dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith. Mae ei gyfansoddiadau yn cael eu perfformio ar draws y byd i gyd, ac yn cynnwys sawl concerto, symffonïau, cantatau, gweithiau corawl, darnau ar gyfer pobl ifanc ac opera. Yn ogystal â chyfansoddi, chwaraeodd rôl bwysig yn hybu cerddoriaeth yng Nghymru gan annog safonau uchel proffesiynol, a sefydlodd fframweithiau sydd bellach yn gymorth i berfformwyr a chyfansoddwyr ifanc.

Daeth i Ogledd Cymru yn 1970, a chyfansoddodd y rhan fwyaf o'i waith o’i gartref ym Mhorthaethwy. Bu’n Athro ac yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor rhwng 1970 a 1988.

© 2023 Gwasanaeth Cerdd Ysgolion. Cedwir Pob Hawl - Gwefan gan Delwedd.

Rhif y cwmni: 3102665. Rhif elusen: 1097614.