Mae’r Gwasanaeth Cerdd Ysgolion yn hyrwyddo ac annog gweithgaredd cerddorol ymysg plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn.
Rydym yn cyflawni hyn trwy…
Rydym yn cael ein hariannu gan Gyngor Gwynedd, ynghyd ag incwm o ddarparu gwersi ac arian achlysurol o amrywiol grantiau.
Mae’r Gwasanaeth yn cael ei reoli gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, gyda dau aelod o staff yn gyfrifol am y gwaith o redeg y cwmni o ddydd i ddydd.
Sefydlwyd y Gwasanaeth yn 1996, wedi ein hysbrydoli gan y cerddor a’r cyfansoddwr Cymreig, William Mathias. Bu’n Athro ac yn Bennaeth yr Ysgol Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1970 a 1988 a chafodd ddylanwad sylweddol ar addysg gerddorol ar draws yr ardal. Rydym yn falch iawn o gyd-weithio’n agos gyda Canolfan Gerdd William Mathias a gyda’n partneriaid eraill yn genedlaethol ac yn lleol.
Deilwen Hughes (Cadeirydd), Dr Catrin Ellis Williams (Is-gadeirydd), Siôn Elwyn Hughes, Dewi Owen Jones, Idris Morris Jones, Alun Llwyd, Carys Owen, Alun Prydderch, Elain Wyn Thomas.
Mae’r Gwasanaeth yn gwmni wedi ei gyfyngu trwy warant ac wedi ei gofrestru yn elusen. Rhif y cwmni: 3102665. Rhif elusen: 1097614.
© 2025 Gwasanaeth Cerdd Ysgolion. Cedwir Pob Hawl - Gwefan gan Delwedd.